Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi enw newydd i Faes Awyr Caerdydd, sef Maes Awyr Rhyngwladol Cymru Robert Owen, ar ôl arwr y Symudiad Cydweithredol yng Nghymru.
Gwybodaeth ychwanegol: Mae maes awyr modern yn hanfodol os yw Cymru am fod yn wlad wirioneddol ryngwladol. Petai’r maes awyr a’r ardal fenter o’i amgylch yn cael eu marchnata o dan frand Robert Owen, byddai’n rhoi apêl fyd-eang iddynt ac yn rhoi hwb i’r ardal gyfagos drwy greu swyddi a chynhyrchu masnach.
Prif ddeisebydd:Mr. Justin Lilley
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 21 Ionawr 2014
Nifer y llofnodion: 11